Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Meeting Venue: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Meeting date: |
Dydd Mawrth, 26 Chwefror 2013 |
|
|||
|
|
||||
Meeting time: |
09:00 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
This meeting can be viewed on Senedd
TV at: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Concise Minutes: |
|||||
|
|
|
|||
Assembly Members: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar Mike Hedges Julie Morgan Gwyn Price Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Witnesses: |
|
Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp - Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Committee Staff: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Papurau i'w nodi
2.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ganlyn:
· gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a’r Llywydd ynghylch amserlen y Pwyllgor;
· ymateb gan Swyddfa’r Cabinet i’r camau i’w cymryd a nodwyd yn y cyfarfod ar 18 Chwefror 2013; a
· chofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor ar 18 Chwefror.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 4 a 5.
4. Trafod amserlen y Pwyllgor
4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod materion mewn perthynas â’r amserlen, a chytunodd ar gynigion a amlinellwyd gan y Cadeirydd ynghylch trefnu blaenraglen waith y Pwyllgor.
5. Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen
5.1 Cafwyd datganiad o fuddiant gan Julie Morgan o dan yr eitem hon, a gadawodd y cyfarfod cyn i’r drafodaeth ddechrau.
5.2 Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen. Cytunodd y Pwyllgor ar nifer o newidiadau i’r adroddiad, a chytunodd i ystyried yr adroddiad eto mewn cyfarfod arall.